BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfleoedd cyllido newydd gan Innovate UK

Sylfeini dylunio rownd 2: ymatebol

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn ar gyfer prosiectau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n ymwybodol o systemau i ddylanwadu ar eu gweithgarwch ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Y dyddiad cau yw 26 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Design foundations round two: responsive – UKRI

Ymchwil a datblygu cydweithredol rhwng India a’r Deyrnas Unedig ar gyfer cynaliadwyedd diwydiannol

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £5 miliwn i ddatblygu cynigion arloesol i sbarduno twf cynaliadwy gydag India. Y dyddiad cau yw 6 Medi 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais India-UK collaborative R&D for industrial sustainability – UKRI

Datblygu meddygaeth fanwl: rownd 2

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £20 miliwn i ddatblygu offer digidol ac wedi’u hwyluso gan ddata yn ogystal â dulliau amlfoddol. Y dyddiad cau yw 28 Mehefin 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Advancing precision medicine: round two – UKRI

Her Fatri Faraday: astudiaethau dichonoldeb rownd 6

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £10 miliwn i arloesi technolegau batris ar gyfer trydaneiddio. Y dyddiad cau yw 12 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Faraday Battery Challenge: round six innovation feasibility studies – UKRI  

Partneriaethau buddsoddwyr Economi’r Dyfodol ar gyfer BBaChau: rownd 2

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyllid grant ochr yn ochr â buddsoddiad preifat gan fuddsoddwyr dethol sy’n bartneriaid. Y dyddiad cau yw 5 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Future Economy investor partnerships SME: round two – UKRI

Benthyciadau arloesi ar gyfer cystadleuaeth yn economi’r dyfodol: rownd 9

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol â photensial masnachol cryf i wella economi’r Deyrnas Unedig yn sylweddol. Y dyddiad cau yw 7 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Innovation loans future economy competition: round nine – UKRI

Masnacheiddio symudedd cysylltiedig ac awtomataidd: trafnidiaeth dorfol 2

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £900,000 ar gyfer astudiaethau dichonoldeb ynglŷn â defnyddio symudedd cysylltiedig ac awtomataidd fel datrysiad trafnidiaeth dorfol. Y dyddiad cau yw 19 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Commercialising connected and automated mobility: mass transit two – UKRI

Dyfodol ffermio: cydnerthedd amgylcheddol

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £12.5 miliwn i ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer ffermio cynaliadwy a chydnerth. Dyddiad cau: 19 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Farming futures: environmental resilience, feasibility – UKRI 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.