Mae tîm Cwrdd yng Nghymru Digwyddiadau Cymru yn arddangos gyda stand brand Cymru mewn pedwar o ddigwyddiadau byd-eang ar gyfer digwyddiadau Busnes yn 2025:
- IMEX, Frankfurt 20-22 Mai 2025
- The Meetings Show ExCel, Llundain 25-26 Mehefin 2025
- IMEX America, Las Vegas 7-9 Hydref 2025
- IBTM World, Fira, Barcelona 18-20 Tachwedd 2025
Gall cyflenwyr digwyddiadau busnes Cymru wneud cais am hyd at 10 gofod ym mhob arddangosfa. Bydd ceisiadau yn cau am 4pm ar 10 Ionawr 2025, cyn belled ag y bydd digon o ddiddordeb gan bartneriaid. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn 23 Ionawr, 2025.
I ddatgan eich diddordeb, llenwch y ffurflen cyfleoedd i arddangos hon neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm Cwrdd yng Nghymru ar cwrddyngNghymru@llyw.cymru