BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfleoedd i fasnachwyr o’r Deyrnas Unedig yn Awstralia

Mae cytundeb masnach rydd y Deyrnas Unedig gydag Awstralia yn dileu tariffau ar yr holl allforion o’r Deyrnas Unedig a disgwylir iddo gynyddu masnach ddwyochrog 53%, gan roi hwb o £2.3bn i economi’r Deyrnas Unedig (ffynhonnell: yr Adran Masnach Ryngwladol).

Fodd bynnag, oherwydd bod pellter o ychydig yn llai na 9,500 o filltiroedd rhwng y ddwy farchnad, bydd allforio nwyddau Prydeinig i Awstralia yn ymgymeriad heriol o hyd.

Mae’r Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol yn cynnal gweminar 45 munud am ddim am 9:30am ddydd Mercher 17 Awst 2022 i helpu busnesau yn y Deyrnas Unedig i ddeall y cyfleoedd a’r heriau y mae’r farchnad Awstralaidd yn eu cyflwyno.

Bydd yn ymdrin â’r canlynol:

  • Y cyfleoedd i fusnesau o’r Deyrnas Unedig yn Awstralia
  • Buddion allweddol y cytundeb masnach rydd rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia
  • Beth rydym yn ei wybod hyd yma am reolau tollau’r Cytundeb Masnach Rydd – gan gynnwys tarddiad
  • Goresgyn heriau – gan gynnwys rhestr wirio diwydrwydd dyladwy
  • Ystyriaethau allweddol i allforwyr gwasanaethau

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich lle, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Registration (gotowebinar.com)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.