Mae cyflog cyfartal yn golygu bod rhaid i ddynion a menywod yn yr un swydd sy’n gwneud yr un gwaith gael cyflog cyfartal, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Dyma’r gyfraith, ac os ydych chi’n gyflogwr, mae’n rhaid i chi ei dilyn. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i gyflogau, ond i holl delerau ac amodau cytundebol cyflogaeth, er enghraifft hawl gwyliau, taliadau bonws, cynlluniau cyflog a gwobrwyo, taliadau pensiwn a buddiannau eraill.
Mae canllaw defnyddiol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn esbonio dyletswyddau cyflogwyr i sicrhau cyflog cyfartal, sut mae sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith a’r gwahaniaeth rhwng cyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.