Mae tua 420,000 o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru, sy’n golygu bod cronfa enfawr o dalent heb ei chyffwrdd yn aros i lenwi eich swyddi gwag.
Ymunwch â’r weminar fer hon i gael cyngor arbenigol am ddim ar sut mae creu gweithlu amrywiol yn gallu cynyddu ceisiadau o safon ar gyfer eich swyddi gwag, a chreu gweithlu cynhwysol sy’n adlewyrchu amrywiaeth eich cwsmeriaid.
Manylion y Digwyddiad;
- Pryd: Dydd Iau, 7 Ebrill 2022, 10:00am -11:00am
- Ble: Ar-lein drwy Microsoft Teams - bydd dolen y cyfarfod yn cael ei hanfon dros e-bost yn nes at y dyddiad
Agenda:
- Cyflwyniad i’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd: Amanda Wadworth MBE DL
-
Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru: James Wilkinson a Terry Mills
-
Cefnogi eich staff yn y gwaith – Mynediad i Waith a Chynllun Iechyd Meddwl Mynediad i Waith
-
Astudiaeth achos – Persbectif cyflogwr
Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i Cynllun Ailddechrau – Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd- Gweminar(serco-ese.com)