BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflogwyr – gwybodaeth am sut i gymryd rhan yng nghynllun Kickstart

Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor.

Gall busnesau ddarllen prosbectws newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflogwyr neu fynychu un o’i gweminarau i gyflogwyr i ddysgu mwy. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn gov.uk/kickstart.

Mae pecyn cymorth cyfathrebu newydd yn awgrymu dulliau o helpu i hyrwyddo’r cynllun Kickstart. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.