BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflogwyr – Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr rhag straen yn y gwaith

Cafodd ymgyrch Working Minds ei chreu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), rheoleiddiwr cenedlaethol Prydain ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle, sydd wedi ymrwymo i wella iechyd gweithwyr
Nid dim ond y peth iawn i'w wneud yw mynd i'r afael â straen, mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol. Gall Working Minds eich helpu i'w wneud yn flaenoriaeth gyffredin i'ch busnes.

Mae tri phrif reswm pam y dylai cyflogwyr fod yn ceisio atal straen a chefnogi iechyd meddwl da mewn busnes:

  1. Dyma'r gyfraith
  2. Mae'n dda i fusnes
  3. Dyma'r peth iawn i wneud

P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n gorfforaeth fawr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith er mwyn cefnogi iechyd meddwl da yn y gweithle. 

Mae'n bwysig cofio mai dim ond pobl ydyn ni yn y pen draw – ac mae pob un ohonon ni'n wynebu pwysau yn y gweithle a’r tu hwnt iddo. Drwy drin ein gilydd gyda pharch a thosturi yn y gwaith, rydym yn cefnogi ein timau a'n cydweithwyr i gadw'n iach.

Y cynharaf yr eid i'r afael â phroblem, po leiaf o effaith y bydd yn ei chael ar yr unigolyn a'ch busnes. Mae straen yn effeithio ar bobl yn wahanol – efallai na fydd rhywbeth sy’n achosi straen ar un unigolyn yn effeithio ar unigolyn arall. Gall ffactorau fel sgiliau a phrofiad, oedran, neu anabledd oll effeithio ar allu rhywun i ymdopi.

Gallwch ddechrau heddiw gyda phum cam syml

  1. Estyn allan a chynnal sgyrsiau
  2. Adnabod arwyddion ac achosion straen
  3. Ymateb i unrhyw risgiau a nodir drwy gytuno ar bwyntiau gweithredu rhwng y cyflogwr a'r gweithiwr
  4. Myfyrio ar y camau a gymerwyd – a yw pethau wedi gwella?
  5. Ei gwneud hi'n Arfer holi eto sut mae pethau'n mynd

Os ydych chi'n meddwl bod gweithiwr yn cael problemau, anogwch nhw i siarad â rhywun, boed hynny'n rheolwr llinell, cynrychiolydd undeb llafur, meddyg teulu neu eu tîm iechyd galwedigaethol.

Os oes angen ychydig o help arnoch i ddechrau sgwrs, gweler Talking Toolkit yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i helpu strwythuro ac ysgogi eich trafodaethau.

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch, ewch i Working Minds Employers - Work Right to keep Britain safe
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.