BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwyno bil newydd i sicrhau bod miloedd o forwyr yn cael cyflog teg

Bydd deddfwriaeth newydd yn sicrhau bod morwyr yn cael cyflog sydd o leiaf yn gyfwerth ag Isafswm Cyflog Cenedlaethol y DU.

Heddiw (6 Gorffennaf 2022), mae llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd i sicrhau bod morwyr yn cael cyflog sydd o leiaf gyfwerth ag Isafswm Cyflog Cenedlaethol y DU.

Mae'r newidiadau'n golygu y bydd miloedd o forwyr sy'n dod i mewn i'r DU yn rheolaidd yn cael cyflog tecach.

Mae’r Bil Cyflogau Morwyr – a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi – yn galluogi awdurdodau porthladdoedd i wrthod mynediad i wasanaethau sy'n galw'n rheolaidd ym mhorthladdoedd y DU ond nad ydynt yn talu eu gweithwyr cyfradd sy’n cyfateb i Isafswm Cyflog Cenedlaethol y DU am yr amser a dreulir yn nyfroedd y DU. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i New bill introduced to ensure thousands of seafarers receive fair pay - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.