Mae cerdyn newydd i gyn-aelodau’r lluoedd arfog, a fydd yn eu helpu i gael at gymorth a gwasanaethau arbenigol, wedi dechrau cael ei gyflwyno i ymadawyr y lluoedd arfog.
O 29 Ionawr 2024 ymlaen, bydd unrhyw aelodau sydd wedi gadael y lluoedd ers Rhagfyr 2018 yn cael un o’r cardiau newydd yn awtomatig, a fydd yn caniatáu iddynt gynnal cysylltiad pendant â’u gyrfa yn y lluoedd.
Mae’r cardiau’n caniatáu i gyn-filwyr gadarnhau eu gwasanaeth yn hawdd i’r GIG, i’w hawdurdod lleol ac i elusennau, gan eu helpu i gael at gymorth a gwasanaethau, lle bo’u hangen.
Bydd pob cyn-filwr arall yn gallu gwneud cais am gerdyn newydd erbyn diwedd y flwyddyn, i nodi eu hamser yn y lluoedd arfog.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: New veterans cards rolled out to service leavers - GOV.UK