BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwyno cyfyngiad ar gynnyrch â braster, siwgr a halen uchel

Bydd deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.

Mae’r gyfraith newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2024 ac mewn grym ar draws Cymru erbyn 2025, yn adeiladu ar yr ymrwymiad i wella deiet ac atal gordewdra drwy gyfyngu ar y ffyrdd y gellir hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen.

Bydd hyn yn cynnwys cynigion cyfaint, fel opsiynau amleitem a chyfyngiadau ar ble gellir arddangos cynnyrch uchel mewn braster, siwgr neu halen mewn siopau, fel ar ben yr eil.

Yn ogystal, er mwyn mynd i’r afael â graddfa’r her, bwriedir cynnwys prisiau rhatach dros dro a chynigion ‘bargen pryd bwyd’. Er na fyddai’n gwahardd bargeinion pryd bwyd na mathau eraill o gynigion, byddai’n cyfyngu ar gynnwys y cynnyrch lleiaf iach yn y cynigion hyn.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyflwyno cyfyngiad ar gynnyrch â braster, siwgr a halen uchel | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.