Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth ysmygu newydd yng Nghymru a hoffem glywed eich barn ar gynigion i ddwyn y gofynion hyn i rym ar 1 Ionawr 2021.
Y prif newidiadau yw y bydd lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant, tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yn ddi-fwg.
Bydd gweithleoedd a mangreoedd caeedig neu sylweddol gaeedig sydd ar agor i’r cyhoedd yn parhau’n ddi-fwg ar y cyfan (fel y maent nawr) a bydd angen arddangos arwyddion o hyd.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd ceir eithriadau sy’n caniatáu ysmygu mewn llety gwyliau a llety dros dro hunangynhwysol ac yn caniatáu ystafelloedd gwely ysmygu mewn gwestai, tai llety, tafarndai, hostelau a chlybiau aelodau. Bydd yr eithriadau hyn yn cael eu dileu 12 mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym. Wedi hynny, bydd rhaid i bob un o’r mathau hyn o lety fod yn ddi-fwg.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y dyddiad cyflwyno neu adborth ar beth fyddai’n eich helpu i weithredu’r gofynion rhowch wybod inni drwy e-bostio PolisiTybaco@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 4 Medi 2020.