BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwyno gofynion di-fwg newydd ar 1 Mawrth 2022

Diweddariad i’r Diwydiant Twristiaeth 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth smygu newydd yng Nghymru ar 1 Mawrth 2021. Y prif newidiadau yw bod tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal i blant yn awr yn lleoliadau di-fwg. Yn y diwydiant twristiaeth, mae’r cyfreithiau newydd yn golygu y bydd yr eithriad presennol i’r gwaharddiad ar smygu sy’n galluogi i unigolion smygu mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol a lletyau dros dro, yn ogystal ag mewn ystafelloedd smygu dynodedig mewn gwestai, tai llety ac ati, yn dod i ben ar 1 Mawrth 2022. Mae’r mesurau, sydd wedi’u cynllunio i ddadnormaleiddio smygu a diogelu mwy o bobl rhag peryglon mwg ail law, yn golygu y bydd yn erbyn y gyfraith i smygu yn yr ardaloedd hyn o 1 Mawrth 2022, ac y gellir rhoi dirwyon. 

Bydd pob math o letyau hunangynhwysol wedi’u cynnwys yn y gofynion di-fwg newydd fel bythynnod, carafannau, cabanau gwyliau ac Airbnb. Bydd hefyd yn ofynnol i westai, tai llety, a thafarndai fod yn ddi-fwg bob amser ac ni fyddant bellach yn cael darparu ystafelloedd smygu dynodedig. I baratoi ar gyfer cyflwyno’r gofynion newydd ar 1 Mawrth 2022, dylai pob perchennog fynd ati i newid unrhyw letyau/ystafelloedd smygu dynodedig yn rhai di-fwg. Bydd angen arddangos arwyddion ‘Dim Ysmygu’ mewn gwestai, tai llety ac ati. Gellir arddangos arwyddion mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol neu letyau dros dro os yw’r perchennog yn dymuno gwneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar y newidiadau, a gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â’r newidiadau sy’n effeithio’r diwydiant twristiaeth ar wefan Llyw.Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: TobaccoPolicy@llyw.cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.