Mae Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, wedi datgelu cynlluniau i drawsnewid y diwydiant gwastraff yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws mynd i'r afael ag allforion anghyfreithlon ac ar droseddau gwastraff.
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gwledydd eraill y DU ar wasanaeth olrhain gwastraff digidol.
Byddai'r gwasanaeth olrhain yn ei gwneud yn orfodol i'r rhai sy'n trin gwastraff gofnodi gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd iddo, o'r pwynt y caiff ei gynhyrchu i'r pwynt y caiff ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei waredu.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 15 Ebrill 2022.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Cyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol | LLYW.CYMRU