BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwyno mesurau newydd i ddiogelu cynilwyr a hybu pobl i fanteisio ar arweiniad am eu pensiwn

Bydd y mesurau “Stronger Nudge to pension guidance” sy’n dod i rym ar 1 Mehefin 2022 yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynlluniau pensiwn galwedigaethol gyflwyno arweiniad fel rhan reolaidd o gael mynediad at gynilion pensiwn. Mae’n rhaid iddynt hefyd gynnig trefnu apwyntiad Pension Wise ar gyfer yr unigolyn, oni bai ei fod yn dymuno optio allan o dderbyn yr arweiniad.

Gwasanaeth gan lywodraeth y DU yw Pension Wise  sy’n darparu arweiniad diduedd am ddim i helpu unigolion 50 oed a hŷn i ystyried yr opsiynau ar gyfer cael mynediad at eu pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.