Dechreuwyd dosbarthu papur £50 polymer newydd Banc Lloegr ar 23 Mehefin 2021. Mae’n cynnwys wyneb y gwyddonydd Alan Turing. Bydd y darn newydd ar gael mewn canghennau ac mewn peiriannau twll yn y wal yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
Mae’r darn £50 polymer yn cynnwys nodweddion diogelwch uwch. Bydd yn ymuno â £5 Churchill, £10 Austen ac £20 Turner, sy’n golygu bod holl arian papur Banc Lloegr ar gael fel rhai polymer bellach.
Mae adnoddau ar gael i helpu busnesau i wirio darnau arian papur a pholymer, gan gynnwys posteri i’w lawrlwytho, llyfrynnau a thaflenni, ac maen nhw ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Cyfnewid hen arian papur
30 Medi 2022 yw’r diwrnod olaf y gallwch chi ddefnyddio yr hen £20 a £50.
Ar ôl 30 Medi 2022, bydd llawer o fanciau yn derbyn yr arian papur fel blaendaliadau gan gwsmeriaid. Efallai y bydd Swyddfa’r Post hefyd yn derbyn yr arian papur nad ydyn nhw mewn cylchrediad bellach i unrhyw gyfrif banc y gallwch ei ddefnyddio yn Swyddfa’r Post. A gallwch wastad gyfnewid arian nad yw mewn cylchrediad bellach gyda Banc Lloegr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Banc Lloegr.