Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, boed yn masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon blynyddol i Dŷ'r Cwmnïau bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur.
Os ydych chi i fod i gyflwyno eich cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau yn y dyfodol agos, caniatewch ddigon o amser cyn y dyddiad cau a defnyddiwch eu llwybrau digidol lle bo hynny'n bosibl.
Mae'n bwysig ichi gydymffurfio a deall yr effaith y gall cyflwyno cyfrifon yn hwyr ei chael. Gallai methu eich dyddiad cau ar gyfer cyflwyno arwain at gosbau ariannol ac effeithio ar eich sgôr credyd neu eich gallu i gael gafael ar gyllid: File your company’s annual accounts online