BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwynwch gyfrifon Tŷ'r Cwmnïau yn gynnar ac ar-lein i osgoi cosbau

Os oes angen i chi gyflwyno cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Medi 2022, defnyddiwch eu gwasanaethau ar-lein, lle y bo'n bosibl, a chaniatewch ddigon o amser cyn eich dyddiad cau. 

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw cyflwyno cyfrifon cwmni. Gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu gael eich datgymhwyso os nad ydych yn cyflwyno eich cyfrifon mewn pryd.

Os ydych chi'n gwmni bach, ni allwch gyflwyno cyfrifon talfyredig, bellach.

Darganfyddwch fwy am eich dewisiadau cyflwyno cyfrifon ar gyfer cwmniau bach.

Bydd dal angen i chi gyflwyno cyfrifon o hyd os yw eich cwmni'n segur.

Mae gwasanaethau ar-lein Tŷ'r Cwmnïau ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - ac mae gwiriadau wedi’u hymgorffori i'ch helpu i osgoi camgymeriadau.

Gall gymryd cyn lleied â 15 munud o'r dechrau i'r diwedd a byddwch yn gwybod bod eich cyfrifon wedi cael eu cyflwyno mewn pryd. 

I gyflwyno ar-lein, byddwch angen cod dilysu eich cwmni. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod iddo gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i File Companies House accounts early and online to avoid penalties - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.