BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflymu diagnosis, dulliau rheoli a chymorth i bobl sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau canser yng Nghymru a Gogledd Iwerddon

Professional healthcare workers

Mae’r Her Canser hon, y cyntaf o’i fath, yn gydweithrediad rhwng Canolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru a’r Uned Arloesedd a Datblygu’r Farchnad yng Ngogledd Iwerddon.

Ceir uchelgeisiau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon i wella canlyniadau cleifion canser a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae angen ymdrech ddi-baid i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd profion diagnostig a thriniaethau, sicrhau'r gofal priodol ar gyfer cleifion priodol ar adegau priodol, a datblygu gwasanaeth cynaliadwy drwy fabwysiadu technolegau newydd, arloesiadau o ran y gweithlu a thriniaethau.

Mae'r her hon yn ceisio sefydlu arloesiadau datblygol sydd bron yn barod i'w masnacheiddio â diogelwch ac effeithiolrwydd profedig ar gyfer profion byd go iawn a wnaiff sicrhau diagnosis cynharach a chyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros, gwelliannau o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaethau a chymorth trwy ofal lliniarol (galluogi pobl i fyw'n dda a marw'n dda â chanser). 

Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus, a’u partner yn y sector cyhoeddus, arddangos a/neu ehangu a lledaenu prosiectau arloesol a all amlygu tystiolaeth o fanteision posibl, cost effeithiolrwydd a chynaliadwyedd eu datrysiadau. 

Mae cyllid presennol o £1 miliwn ar gael i gefnogi portffolio o brosiectau, ond gallai hynny newid, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y ceisiadau a dderbynnir.

Digwyddiad Briffio

Dilynwch y ddolen isod i fynegi eich diddordeb yn y Digwyddiad Briffio rhithiol a gynhelir ar 10 Medi 2024 yn 1pm:

SBRI Briefing Event: Accelerating the diagnosis, management and support of people diagnosed with cancer in Wales and Northern Ireland

Y Broses Ymgeisio

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan drwy: Cyflymu diagnosis, dulliau rheoli a chymorth i bobl sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau canser yng Nghymru a Gogledd Iwerddon

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Medi 2024. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.