Mae Amazon, WRAP ac EIT Climate-KIC, sef prif ganolfan arloesi hinsawdd Ewrop wedi ymuno i gefnogi entrepreneuriaid gyda chynhyrchion defnyddwyr cynaliadwy a thechnolegau ailgylchu.
Mae'r Cyflymydd Cynaliadwyedd yn agored i fusnesau newydd sy'n creu cynhyrchion defnyddwyr mwy cynaliadwy ac, am y tro cyntaf, y rheiny sy'n datblygu technoleg a all helpu'r diwydiant i ailgylchu cynhyrchion yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Mae'r rhaglen nawr yn derbyn ceisiadau gan fusnesau newydd cyfnod cynnar yn Ewrop.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Mawrth 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Amazon Sustainability Accelerator