Rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA):
- os byddwch chi’n datblygu cyflwr meddygol neu anabledd 'hysbysadwy'
- os yw cyflwr neu anabledd wedi gwaethygu ers i chi gael eich trwydded
Mae cyflyrau hysbysadwy yn unrhyw beth a allai effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel. Gallant gynnwys:
- diabetes neu gymryd inswlin
- syncope (llewygu)
- cyflyrau’r galon (gan gynnwys affibriliad atrïaidd a rheolyddion y galon)
- apnoea cwgs
- epilepsi
- strôc
- glawcoma
Gallech gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch chi'n dweud wrth DVLA am gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel. Gallech gael eich erlyn hefyd os cewch chi ddamwain.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Medical conditions, disabilities and driving: Telling DVLA about a medical condition or disability - GOV.UK (www.gov.uk)