BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Atal Byr y Coronafeirws Cymru

Bydd y cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020 ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Bydd yn berthnasol i bob un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn dod yn lle’r cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o’r wlad.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn o bron i £300m i gefnogi busnesau, a bydd y cyllid hwn yn cyd-fynd â’r cymorth cyflogau sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU.  

Ar ôl diwedd y cyfnod atal byr, cyflwynir set newydd o reolau cenedlaethol, yn cwmpasu sut y gall pobl gyfarfod a sut mae'r sector cyhoeddus a busnesau'n gweithredu.

Cliciwch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.