Mae busnesau sy’n masnachu pren rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon yn cael eu hannog i weithredu er mwyn sicrhau eu bod yn barod am ddiwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020.
I gydymffurfio â’u rhwymedigaethau, bydd masnachwyr pren yn gorfod dweud wrth y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS):
- gan bwy y gwnaethon nhw brynu’r pren
- i bwy y gwnaethon nhw ei werthu (waeth beth fo’r rhywogaeth, cynnyrch neu wlad tarddiad); drwy dystiolaeth megis anfoneb
- bydd yn ofynnol i fasnachwyr a gweithredwyr (mewnforwyr) gadw cofnodion am bum mlynedd
Yn yr un ffordd ag y maen nhw’n ei wneud nawr, mae’n ofynnol i weithredwyr ymarfer diwydrwydd dyladwy i sicrhau nad yw pren a chynhyrchion pren wedi’u cynaeafu’n anghyfreithlon.
Bydd y newidiadau yn berthnasol i ystod o fusnesau sy’n defnyddio pren gan gynnwys:
- mewnforwyr a gweithredwyr
- allforwyr
- y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu
- gwneuthurwyr dodrefn
- gwneuthurwyr papur a mwydion coed
- y diwydiant coedwigaeth
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.