Mae’r cyfnod pontio yn dirwyn i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Ar 1 Ionawr 2021, bydd newidiadau i sut bydd y system Eiddo Deallusol a’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gweithredu.
Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar:
Anogir busnesau i:
- ystyried yn ofalus lle i ddatgelu eich dyluniadau i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n ddigonol yn eu marchnad bwysicaf
- os ydych chi’n allforio nwyddau y diogelir eu Heiddo Deallusol ar y farchnad eilaidd neu baralel, cysylltwch â’r deiliad hawliau yn yr AEE i weld a oes gennych chi ganiatâd i barhau i allforio'n baralel
- meddyliwch ydych chi am i allforion barhau os ydych chi’n fusnes sy’n berchen ar hawliau Eiddo Deallusol am nwyddau sy’n cael eu hallforio’n baralel ar hyn o bryd o’r DU i’r AAE.
Gallwch weld pa gamau eraill y gallech chi fod angen eu cymryd trwy ddefnyddio’r adnodd chwilio yn gov.uk/transition a chofrestru ar gyfer diweddariadau parodrwydd busnes.
Beth am ymweld â Phorth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.