Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn darparu’r newyddion diweddaraf i fusnesau, cymdeithasau masnach, cyrff cynrychiolwyr busnes a chyfryngwyr busnes, tra bod y DU mewn cyfnod pontio ac wrth i’’r DU a’r UE drafod trefniadau ychwanegol.
Bydd y rheolau presennol ar fasnach, teithio a busnes ar gyfer y DU a’r UE yn parhau’n gymwys yn ystod y cyfnod pontio. Bydd rheolau newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.
Mae diweddariadau i ganllawiau’n cynnwys:
- cytundebau masnach presennol y DU gyda gwledydd y tu allan i'r UE
- cyflogi dinasyddion yr UE yn y DU – gan gynnwys gwybodaeth am newidiadau dros dro yn y ffordd y gallwch chi wirio dogfennau hawl i weithio oherwydd coronafeirws.
- rhestr o asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym
- deddfwriaeth gwasanaethau ariannol o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018
Mae’r holl wybodaeth ynghylch pontio ar gael yn GOV.UK.