BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU: canllawiau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio

Lansio’r UK Trader Scheme i gynorthwyobusnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon: Bydd y New UK Trader Scheme (UKTS) yn helpu i sicrhau nad yw masnachwyr yn talu tariffau am symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, pan fo’r nwyddau hynny’n parhau yn nhiriogaeth tollau’r DU. Am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i fusnesau ei wneud cyn symud nwyddau am y tro cyntaf ar ôl 1 Ionawr 2021, ewch i wefan GOV.UK.

Gwneud cais am awdurdod ar gyfer yr UK Trader Scheme os ydych chi’n dod â nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021 ymlaen: Bydd angen i chi wybod sut i gael awdurdod i ddatgan nwyddau rydych yn eu cludo i Ogledd Iwerddon, pan nad oes ‘risg’ y byddant yn symud i’r UE, er mwyn sicrhau na fydd toll yr UE yn daladwy ar y nwyddau hynny. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.  

Cofrestru i wneud datganiad crynodeb mynediad ym Mhrydain FawrCyhoeddwyd canllawiau ar ddefnyddio y Gwasanaeth S&S Prydain Fawr os ydych yn mewnforio nwyddau i Brydain Fawr ac angen gwneud datganiad crynodeb mynediad. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Cofrestru i wneud datganiad crynodeb mynediad ym Mhrydain Fawr: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi i wirio argaeledd ac unrhyw broblemau sy’n effeithio ar y gofrestr i wneud datganiad crynodeb mynediad yng ngwasanaeth Prydain Fawr. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Rhestr o Borthladdoedd sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau: I gael gwybod pa leoliadau sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau o 1 Ionawr ymlaen, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.