BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU – canllawiau newydd ar gyllid yr UE

Er bod y DU wedi ymadael â’r UE, bydd busnesau’n parhau i gael unrhyw gyllid gan yr UE a ddyfarnwyd iddynt eisoes. Mae hyn yn cynnwys cyllid a fydd yn ddyledus iddynt ar ôl 31 Rhagfyr 2020.

Gall busnesau barhau i wneud cais am gyllid yr UE o dan y fframwaith presennol ar gyfer gwariant. Bydd y dyddiadau cau yn dibynnu ar y gronfa y gwnaeth y busnes gais ar ei chyfer. Bydd rhai cronfeydd yn parhau i dderbyn ceisiadau dan y fframwaith presennol yn ystod 2021. Ni chafwyd penderfyniad eto ynghylch y cyllid y bydd sefydliadau’r DU yn gallu gwneud cais amdano wedi i’r fframwaith ar gyfer gwariant ddod i ben.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.