BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU: darllenwch y canllawiau newydd diweddaraf ar gyfer busnesau

Trethi a thollau busnesau’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi sy’n cwmpasu pa drethi a thollau y gallai busnesau’r UE eu talu wrth fasnachu gyda’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Busnesau o’r UE yn allforio i’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer busnesau’r UE i weld beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i allforio i’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Busnesau’r UE sy’n mewnforio o’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi i fusnesau’r UE i’w hysbysu beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i fewnforio o’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Busnesau’r UE sy’n darparu gwasanaethau i’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi i fusnesau’r DU er mwyn iddyn nhw ddarganfod beth sydd angen iddyn nhw ei wybod am ddarparu gwasanaethau yn y DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Diogelu data a hawlfraint ar gyfer busnesau’r UE: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer busnesau’r UE i’w hysbysu o’r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud o ran diogelu data, eiddo deallusol a hawlfraint yn y DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Safonau dynodedig: Mae gwybodaeth wedi’i chyhoeddi i fusnesau am safonau dynodedig ar ddiwedd y Cyfnod Pontio. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Mewnforio cig dofednod ar ôl 31 Rhagfyr 2020: Mae hysbysiad wedi’i gyhoeddi i roi manylion ynghylch cwotâu mewnforio cig dofednod a gwybodaeth am drwyddedau ar ôl 31 Rhagfyr 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

Mewnforio cig moch ar ôl 31 Rhagfyr 2020: Mae hysbysiad wedi’i gyhoeddi i roi manylion ynghylch cwotâu mewnforio cig moch a gwybodaeth am drwyddedau ar ôl 31 Rhagfyr 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

Beth am ymweld â Phorth Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.