BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU: safleoedd gwybodaeth a chyngor newydd ar gyfer cludwyr

Mae safleoedd gwybodaeth a chyngor newydd wedi agor ledled y DU i sicrhau bod gan gludwyr bopeth sydd ei angen arnynt i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Mae’r safleoedd COVID-ddiogel, sydd wedi’u lleoli mewn gwasanaethau traffordd a mannau gorffwys i lorïau ledled rhwydwaith ffyrdd y DU, yn cynnig hyfforddiant un-i-un i gludwyr ar y gwasanaeth ‘Check an HGV' newydd a’r newidiadau i brosesau ar y ffin a fydd yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Bydd yr hyfforddiant ar gael mewn hyd at 13 iaith i ddarparu cymorth i gludwyr o wahanol wledydd yr UE.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.