BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r UE: canllawiau newydd ar gyfer busnesau bwyd

 

Canllawiau digidol yn ymwneud â’r camau allweddol y bydd angen i fusnesau bwyd a diod eu cymryd o bosibl: Mae canllawiau digidol newydd wedi’u cyhoeddi sy’n cynnwys y camau allweddol y bydd angen i fusnesau bwyd a diod eu cymryd o bosibl pan ddaw’r Cyfnod Pontio i ben. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.

Deddfwriaeth yn ymwneud â maethiad ar ôl 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi i fusnesau yn ymwneud â newidiadau ymarferol a fydd yn cael eu cyflwyno i ddeddfwriaeth yn ymwneud â maethiad ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys labelu, cyfansoddiad a safonau maethiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.

Diwygiadau i reolau gwybodaeth am fwyd a gwin: Mae Rheoliadau Bwyd a Diod (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 wedi’u cyhoeddi, ac maen nhw’n gwneud mân ddiwygiadau i ddeddfwriaeth a ddargedwir yn ymwneud â rheolau gwybodaeth bwyd a gwin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.  

Mae Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer pontio’r UE.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.