BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r UE: Y canllawiau diweddaraf ar gyfer busnesau a sefydliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Os ydy eich sefydliad yn anfon gwybodaeth bersonol i wledydd yn yr UE, neu’n derbyn gwybodaeth ganddynt, mae’n rhaid i chi weithredu nawr i wneud yn siŵr bod y llif data yn gallu parhau’n gyfreithlon.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod eich sefydliad wedi paratoi’n briodol ar gyfer pob senario ymadael, pa un ai a ydych chi’n unig fasnachwr neu’n fusnes bach neu’n sefydliad rhyngwladol mawr. 

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi diweddaru ei chanllawiau er mwyn helpu eich busnes i weld beth sydd angen ei wneud.

Mae’r canllawiau’n cynnwys:

  • canllawiau newydd i sefydliadau bach
  • canllawiau i sefydliadau bach sy’n derbyn data o Ewrop
  • sefydlu contract nawr i sicrhau bod data’n dal i lifo
  • ddim yn gwybod os oes angen cymal cytundebol safonol arnoch, gallwch ddod i wybod yn hawdd nawr
  • canllawiau i sefydliadau mawr sy’n anfon neu’n derbyn data o Ewrop
  • canllawiau i sefydliadau bach gyda phresenoldeb neu gwsmeriaid yn Ewrop
  • canllawiau i sefydliadau mawr gyda phresenoldeb neu gwsmeriaid yn Ewrop

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan ICO.

Gweminar: Cadwch ddata'n llifo ar ddiwedd cyfnod pontio'r DU allan o'r UE

Ddydd Iau 3 Rhagfyr 2020 am 10:30am, bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal gweminar wedi'i hanelu at sefydliadau bach a chanolig.

Bydd aelodau o'u tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn trafod y gofynion diogelu data allweddol i'w hystyried ar ddiwedd y cyfnod pontio ar gyfer gadael yr UE.

Cofrestrwch ar gyfer y gweminar yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.