BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Bydd cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu ar 1 Ebrill. Yn ogystal â’r cyfraddau newydd, bydd yr oedran y daw gweithwyr yn gymwys i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei ostwng. O 1 Ebrill ymlaen, rhaid talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol neu uwch i bob gweithiwr 23 oed a throsodd.

Mae’r cyfraddau hyn ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (ar gyfer pobl 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ar gyfer y rhai o oedran gadael ysgol o leiaf) o 1 Ebrill 2021:

  • i’r rhai 23 oed a throsodd, y gyfradd newydd yw £8.91
  • i’r rhai rhwng 21 a 22 oed, y gyfradd newydd yw £8.36
  • i’r rhai rhwng 18 a 20 oed, y gyfradd newydd yw £6.56
  • i rai dan 18 oed, y gyfradd newydd yw £4.62
  • i brentisiaid, y gyfradd newydd yw £4.30

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech sicrhau eich bod yn barod i wneud y newidiadau angenrheidiol i’ch trefniadau cyflogres.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.