BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau Tâl Statudol o fis Ebrill 2023

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cyfraddau statudol arfaethedig ar gyfer tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu, tâl profedigaeth rhiant a thâl salwch o fis Ebrill 2023.

Mae'r cyfraddau fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ac yn digwydd ar y Sul cyntaf ym mis Ebrill, sef 2 Ebrill yn 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Benefit and pension rates 2023 to 2024 - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae cyfraddau’r isafswm cyflog cenedlaethol a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2023 eisoes wedi'u cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth ewch i Minimum wage rates for 2023 - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.