Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2022.
Yn llawn, dyma’r cynnydd:
- Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £8.91 i £9.50
- Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £8.36 i £9.18
- Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) yn codi o £6.56 i £6.83
- Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (16-17) yn codi o £4.62 i £4.81
- Cyflog Prentisiaeth yn codi o £4.30 i £4.81
Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol – sut i sicrhau eich bod yn talu’r cyfraddau newydd yn gywir
Mae CThEM yn cynnig gweminarau byw yn ystod mis Mawrth i egluro’r cynnydd yn y cyfraddau sydd ar droed, gan gynnwys pryd yn union y dylech ddechrau talu’r cyfraddau newydd. Dewiswch ddyddiad ac amser i fynd i un o’r gweminarau: Registration (gotowebinar.com)