BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 2023

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2023.

Yn llawn, dyma’r cynnydd:

  • Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £9.50 i £10.42
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £9.18 i £10.18
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) yn codi o £6.83 i £7.49
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (16-17) yn codi o £4.81 i £5.28
  • Cyflog Prentisiaeth yn codi o £4.81 i £5.28

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Cyflog Byw Cymru – Ar gyfer gwir gostau byw Living Wage Wales – For the real cost of living (cyflogbyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.