BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer 2024/25

Hairdresser and client

Mae’r cyflog byw yn dda i fusnes, yn dda i weithwyr ac yn dda i’r economi leol.

Drwy dalu’r Cyflog Byw mae cyflogwyr yn cymryd cam gwirfoddol i sicrhau bod eu cyflogai yn gallu ennill cyflog y mae modd iddynt fyw arno. Golyga hyn eu bod yn gallu cyfranogi at gymdeithas, gan ennill digon o arian i fyw, yn hytrach na dim ond crafu byw.

Yn ogystal â bod y peth iawn i’w wneud, mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y buddion busnes o fod yn gyflogwr Cyflog Byw, yn ychwanegol at y buddion sy’n dod i’r economïau lleol.

Mae cyfraddau Cyflog Byw yn cael eu cyfrifo'n annibynnol ar sail gwir gostau byw yn y DU a Llundain.

Y cyfraddau newydd ar gyfer 2024/25 yw:

  • £12.60 cyfradd y DU
  • £13.85 cyfradd Llundain

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y doleni ganlynol:

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Amdano – cyflogbyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.