BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

male employee leaning on a desk

Mae cyfradd fesul awr yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed ac a ydych chi’n brentis.

Rhaid i chi fod o leiaf yn:

  • oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • 23 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol - bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 22 oed ac iau

Dyma’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai o oed gadael ysgol o leiaf). Mae’r cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.

 

23 a throsodd

21 i 22

18 i 20

O dan 18

Prentis

Ebrill 2023 

£10.42

£10.18

£7.49

£5.28

£5.28

O 1 Ebrill 2024, bydd gan weithwyr 21 oed a throsodd hawl i'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

 

21 a throsodd

18 i 20

O dan 18

Prentis

Ebrill 2024

£11.44

£8.60

£6.40

£6.40

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol - GOV.UK 

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Cyflog Byw Cymru – Ar gyfer gwir gostau byw Living Wage Wales – For the real cost of living (cyflogbyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.