Mae cyfreithiau ysmygu newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru sy’n effeithio ar y diwydiant twristiaeth.
O 1 Mawrth 2022, mae’n rhaid i bob gwesty, tŷ llety, tafarn, hostel a chlybiau aelodau fod yn ddi-fwg a ni fyddant bellach yn gallu cynnig ystafelloedd gwely lle ceir ysmygu.
Bydd pob llety gwesty a dros dro hunangynhaliol, fel bythynnod, carafanau, chalets a mathau eraill o lety gosod tymor byr, yn ddi-fwg. Felly, dylai perchnogion fod wedi paratoi ar gyfer newid eu llety ysmygu/ystafelloedd gwely smygu dynodedig i fod yn rhai di-fwg yn barod ar gyfer 1 Mawrth 2022 - ar ôl y dyddiad hwn bydd yn anghyfreithlon ysmygu yn y mannau hyn a gallent dderbyn dirwy.
Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y diwydiant twristiaeth ar gael yn LLYW.Cymru