Fel arfer, mae gan weithwyr gyda mwy na 2 flynedd o wasanaeth parhaus sy’n colli eu gwaith hawl i daliad colli swydd statudol sy’n seiliedig ar hyd gwasanaeth, oedran a chyflog, hyd at uchafswm statudol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth o ddydd Gwener 31 Gorffennaf a fydd yn:
- sicrhau bod gweithwyr ar ffyrlo yn derbyn tâl colli swydd statudol ar sail eu cyflogau arferol, yn hytrach na chyfradd ffyrlo ostyngedig
- golygu nad yw’r rhai ar ffyrlo dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar eu colled os ydynt yn colli eu swydd
- cymwys hefyd i dâl rhybudd statudol a hawliadau eraill, gan roi sicrwydd yn ystod yr amser anodd hwn
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.