BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfreithiau newydd a chod i ddatrys dyledion rhent masnachol yn sgil COVID-19

Mae cyfreithiau newydd a Chod Ymarfer yn cael eu cyflwyno i ddatrys y dyledion rhent masnachol sydd ar ôl yn sgil y pandemig.

Mae’r Cod yn nodi y dylai tenantiaid nad ydynt yn gallu talu yn llawn drafod gyda’u landlord yn y lle cyntaf gyda’r disgwyliad y bydd y landlord yn hepgor rhywfaint neu’r holl ôl-ddyledion rhent os ydyw’n gallu gwneud hynny.

O 25 Mawrth 2022, bydd cyfreithiau newydd a gyflwynwyd yn y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) yn sefydlu proses cyflafareddu sy’n rhwymol-gyfreithiol ar gyfer landlordiaid a thenantiaid masnachol nad ydynt wedi dod i gytundeb, gan ddilyn egwyddorion y Cod Ymarfer.

Bydd y Bil yn gymwys i ddyledion rhent masnachol sy’n gysylltiedig â gorfodi busnesau penodol i gau, fel tafarndai, campfeydd a bwytai yn ystod y pandemig. Ni fydd dyledion a gronnodd ar adegau eraill o fewn y cwmpas. 

Bydd y cyfreithiau hyn yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr a bydd gan Ogledd Iwerddon bŵer yn y Bil i gyflwyno deddfwriaeth debyg.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.