Daeth y cyfnod pontio â’r Undeb Ewropeaidd (UE) i ben ar 31 Rhagfyr 2020, a bydd rheolau mewnforio newydd yn cael eu cyflwyno fesul cam rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2021.
Ym mis Ebrill, bydd cyfres arall o newidiadau yn dod i rym yn ymwneud ag allforion cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl o’r UE i Brydain, fel yr amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Ffin. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar allforion bwyd a diod sy’n cynnwys cynhyrchion anifeiliaid o’r UE i Brydain.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnal cyfres o weminarau i gynorthwyo masnachwyr.
Bydd y gweminarau’n cael eu cynnal rhwng 10am a 11am ar y dyddiadau canlynol:
- 18 Chwefror 2021: SPS import controls for Dairy from 1st April (EU to GB)
- 25 Chwefror 2021: SPS import controls for Meat from 1st April (EU to GB)
- 4 Mawrth 2021: SPS import controls for fish and fishery products from 1st April (EU to GB)
- 11 Mawrth 2021: SPS import controls for Composite Products from 1st April (EU to GB)
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.