Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig (EPR) ar gyfer pecynnu.
Mae EPR ar gyfer pecynnu yn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu. Mae'n golygu y bydd yn rhaid i fusnesau sy'n cyflenwi ac yn defnyddio deunydd pacio dalu am ei reolaeth pan fydd yn cael ei wastraffu.
Mae'r cynllun ledled y DU yn anelu at:
- leihau deunydd pacio diangen
- cynyddu effeithlonrwydd adnoddau ac ansawdd a maint ailgylchu
- lleihau faint o ddeunydd pacio sydd mewn ffrydiau gwaredu gwastraff
- lleihau sbwriel pecynnu, a
- annog ailddefnyddio deunydd pacio
Rydym eisoes yn arwain y byd o ran ailgylchu, ac rydym am wneud mwy. Ond nid oes atebion ailgylchu ar gyfer sawl math o becynnu yn bodoli neu yn ddrud i'w rheoli. Mae cyflwyno EPR ar gyfer pecynnu yn ffordd o wella ailgylchu. Bydd hefyd yn helpu'r sector i ddatgarboneiddio trwy gefnogi trawsnewidiad sylweddol.
Y nod yw:
- mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur
- aeiladu economi gryfach a gwyrddach
- bod yn sero net yng Nghymru erbyn 2050
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu | LLYW.CYMRU