BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi canllawiau newydd pontio’r UE

 

Newidiadau i ymarfer cyfreithiol o 1 Ionawr 2021 ymlaen – canllawiau ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol: Mae canllawiau ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol ar sut y bydd meysydd amrywiol o ymarfer cyfreithiol yn newid o 1 Ionawr 2021 ymlaen wedi’u cyhoeddi yma.

Lansio cronfa hyfforddiant i helpu milfeddygon i baratoi ar gyfer 1 Ionawr 2021: Nod y gronfa hyfforddiant ar gyfer milfeddygon yw hybu gallu ardystio ar gyfer allforion i’r UE ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Cyflenwi meddyginiaethau i Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021 ymlaen: Gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i gyflenwi meddyginiaethau wedi’u hawdurdodi o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon o fis Ionawr 2021 ymlaen yma.

Ymgynghoriad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd: Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ymgynghori ar ei ganllawiau drafft ar ei swyddogaethau ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. Mae’r ymgynghoriad hwn ar gael yma ac yn dod i ben am hanner dydd ar 30 Hydref 2020.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.