BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod

Cardigan food festival

Mae cronfa i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau ddydd Mercher 1 Mai 2024.

Mae'r cynllun grantiau bach yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru gan wella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a'u hymwybyddiaeth ohonynt.

Bydd y gronfa yn helpu i fynd i'r afael â chamau gweithredu allweddol 'Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod' Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn anelu at annog cydweithredu a chydweithio rhwng busnesau lletygarwch a bwyd a diod yng Nghymru er mwyn iddynt ddod o hyd i fwy o fwyd a diod lleol, a chynyddu faint o fwyd a diod o Gymru sydd ar fwydlenni ac mewn siopau.

Bydd y cynllun grant yn agor i geisiadau rhwng 1 Mai 2024 a 7 Mehefin 2024 ar gyfer sefydliadau â diddordeb sy'n dymuno cymryd rhan ac sy'n gallu dangos bod eu prosiect/digwyddiad yn cyflawni canlyniadau'r cynllun sydd wedi'u diffinio, a hynny rhwng 1 Mai 2024 a 31 Mawrth 2025.

Mae manylion llawn am y cynllun gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais ar gael ar Busnes Cymru ar Twristiaeth Bwyd - Busnes Cymru – Bwyd a Diod (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.