Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £157 miliwn o gyllid newydd i helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog eleni.
Mae'r cyllid ychwanegol yn cynnwys £21 miliwn i brynu offer diagnostig i'r GIG i helpu i leihau amseroedd aros. Daw hynny ar ben pecyn gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf i gwtogi'r arosiadau hiraf.
Bydd £20 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau drwy raglen adeiladu ysgolion a cholegau Llywodraeth Cymru, Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sy'n ychwanegol at £30 miliwn a ddarparwyd eisoes eleni.
Bydd £1 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a fydd yn cefnogi 60 o sefydliadau. Mae hyn yn ychwanegol at £1.5 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer y sector gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi.
Bydd cyllid arall yn cefnogi trafnidiaeth, tai a llywodraeth leol i greu swyddi gwyrdd a thwf. Bydd rhagor o fanylion am gyllid yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos hon.
Mae'r pecyn cyllid newydd gwerth £157 miliwn - cyfuniad o gyllid refeniw a chyfalaf - ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-2025). Bydd y Gyllideb Ddrafft sy'n nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2025-2026), yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth 10 Rhagfyr.
I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyhoeddi cyllid newydd i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog | LLYW.CYMRU