BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi cynigion i wella lles anifeiliaid

Dachshund near Tintern Abbey

Mae ymgynghoriad ar gynigion i gryfhau sut mae gweithgareddau anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru, a fydd yn gwella lles anifeiliaid, wedi'i gyhoeddi heddiw (8 Rhagfyr 2023).

Ar hyn o bryd nid yw nifer o weithgareddau anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio, neu nid yw'r rheoliadau'n addas i'r diben mwyach. 

Byddai cryfhau trwyddedu o'r fath yn gwella ac yn diogelu lles anifeiliaid, gyda chynllun trwyddedu statudol yn gosod safonau gofynnol y byddai angen i bob deiliad trwydded gydymffurfio â hwy, wedi'u hategu gan drefn archwilio. 

Mae'r ymgynghoriad Trwyddedu Sefydliadau Lles, Gweithgareddau ac Arddangosfeydd Anifeiliaid yn rhan o'r cam cyntaf ar gyfer datblygu Model Cenedlaethol i wella safonau lles ac mae'n ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

Mae meysydd nad ydynt wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd yn cynnwys canolfannau achub anifeiliaid, llochesi anifeiliaid, gwasanaethau cerdded a thwtio cŵn, a pharciau chwarae cŵn, ymhlith eraill.

Yn sgil y diddordeb mawr gan y cyhoedd yn lles milgwn rasio, mae'r ymgynghoriad yn ystyried y posibilrwydd o drwyddedu perchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr cŵn rasio fel milgwn.  Mae hefyd yn gofyn am dystiolaeth i gyfiawnhau neu wrthod ystyried gwaharddiad graddol ar rasio cŵn yn y dyfodol. 

Y bwriad ar hyn o bryd yw casglu barn y cyhoedd ar amrywiaeth o feysydd a nodwyd, er mwyn datblygu polisi a chynigion yn y dyfodol.  Byddai unrhyw drefniadau trwyddedu yn y dyfodol yn y meysydd a nodwyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach, cyn iddynt gael eu rhoi ar waith.

Ymgynghoriad yn cau: 1 Mawrth 2024 Trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid | LLYW.CYMRU

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyhoeddi cynigion i wella lles anifeiliaid | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.