Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a chryfhau'r economi wledig yn rhan o gynigion a gyhoeddwyd heddiw (5 Gorffennaf) sy'n amlinellu'r camau nesaf wrth gynllunio cynllun cymorth fferm nodedig Cymru yn y dyfodol.
Mae cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn arwydd o newid mawr a bydd yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sicrhau amgylchedd mwy gwydn ac economi wledig fwy gwydn.
Darperir cymorth ariannol ar gyfer y gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud i ymateb i heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Mae'r camau gweithredu yn y Cynllun wedi'u nodi o dan bum nodwedd sy'n dangos yr amrywiaeth o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru am gefnogi ffermwyr i'w helpu i gyflawni ystod eang o ganlyniadau ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Mae'r rhain yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr i'w helpu i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd neu'r farchnad, helpu i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau a'u cefnogi i fod yn fwy effeithlon, lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella'r stociau carbon presennol drwy ddal a storio carbon.
Mae cyfraddau talu yn cael eu llywio gan fodelu a dadansoddi economaidd Llywodraeth Cymru sy'n dal i gael eu cynnal.
Ni fydd penderfyniad ar sut y bydd y Cynllun terfynol yn edrych yn cael ei wneud hyd nes y bydd ymgynghoriad pellach ar y cynigion manwl a'r dadansoddiad economaidd wedi'i gyflwyno yn 2023. Bydd hyn yn cynnwys modelu'r camau gweithredu yn y Cynllun ac asesu sut mae'r camau gweithredu yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cyhoeddi cynigion pwysig newydd i gefnogi ffer | LLYW.CYMRU