BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi cynllun rheoli COVID-19 wedi’i ddiweddaru

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun rheoli COVID-19 ar gyfer Cymru yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.

Mae’r cynllun diwygiedig wedi’i lywio gan ddadansoddiad diweddaraf ein harbenigwyr gwyddonol a meddygol a Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE). Mae hefyd wedi’i lywio gan y profiad mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae'r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd – o lefel rhybudd 1 i lefel rhybudd 4:

  • Lefel rhybudd 1 (risg isel) – dyma’r agosaf at normalrwydd yr ydym yn debygol o’i gael cyn yr haf a hyd nes y bydd brechlynnau wedi’u darparu yn eang.
  • Lefel rhybudd 2 (risg ganolig) – cyflwyno mesurau rheoli ychwanegol wedi’u targedu i gadw’r cyfraddau heintio ar lefelau is. Gall y rhain gael eu hategu gan gyfyngiadau lleol wedi’u targedu’n fwy i reoli achosion neu frigiadau penodol.
  • Lefel rhybudd 3 (risg uchel) – dyma’r pecyn llymaf o gyfyngiadau, heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo.
  • Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn) – mae cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i gyfnod clo ac yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan LLYW.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.