BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer ffermio cynaliadwy

 Deputy First Minister with responsibility for Rural Affairs, Huw Irranca-Davies

Heddiw yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi amlinelliad wedi'i diweddaru o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gan weithio mewn partneriaeth â'r undebau ffermio, grwpiau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill ar y Ford Gron Gweinidogol a grwpiau ategol, gan gynnwys y Panel Atafaelu Carbon, mae yn y fersiwn ddiweddaraf hon newidiadau pwysig i'r cynigion blaenorol.

Mae'r newidiadau'n mynd i'r afael ag anghenion ffermwyr Cymru ac maent, ar yr un pryd, yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, yn ogystal â'r ymrwymiadau ar newid hinsawdd a natur.

Dyma rai o'r prif newidiadau:

  • Mae'r haen Gyffredinol i bawb wedi cael ei chadw ond mae ynddi lai o Weithredoedd Cyffredinol a Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol ychwanegol ar gyfer y rheini a fydd yn dewis gwneud mwy. Mae nifer y Gweithredoedd Cyffredinol wedi gostwng o 17 i 12 ac mae 10 o'r 12 sy'n weddill wedi cael eu newid.
  • Mae’r ffigur ar lefel fferm ar gyfer gorchudd coed wedi’i ddileu a bydd targed ar raddfa cynllun gyfan yn cael ei gyflwyno yn ei le a fydd yn cael ei bennu yn dilyn trafodaethau â’r Ford Gron Gweinidogol, a Gweithred Gyffredinol ar gyfer cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi (gwrychoedd). Felly, ni fyddwn yn gofyn bellach i ffermwyr fod ag o leiaf 10% o orchudd coed ar eu tir.
  • Bydd ffermwyr a fydd yn gwneud cais o dan y Cynllun yn gallu penderfynu lle byddan nhw am ychwanegu rhagor o goed/wrychoedd ar eu fferm, a faint, ac yn gallu cael cyllid i'w helpu i wneud hynny drwy Haen Opsiynol y Cynllun.
  • Mae'r tair weithred Iechyd Anifeiliaid, Lles a Bioddiogelwch wedi cael eu huno'n un weithred symlach fel bod eich trafodaethau gyda'ch milfeddyg yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i iechyd a lles anifeiliaid.
  • Mae'r gofyniad i bob fferm osod mannau golchi wedi cael ei newid yn Weithred Opsiynol, gan gydnabod y gall anghenion bioddiogelwch ffermydd unigol fod yn wahanol iawn.
  • Cadarnhad y bydd taliadau ychwanegol am werth cymdeithasol yn cael eu gwneud o dan ran gyffredinol y cynllun. Bydd y taliadau hynny'n adlewyrchu'r buddion ehangach a fydd yn deillio o ddiwydiant amaethyddol cynaliadwy.
  • Ystyried Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a hawliau tir comin yn y Taliad Cyffredinol. Bydd rhagor o gymorth ar gyfer y ddau ar gael hefyd ar ffurf Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.

O ystyried pwysigrwydd y Cynllun o ran cyfrannu at yr amcanion sydd gan Gymru mewn perthynas â natur a bioamrywiaeth, rydym wedi cadw'r gofyniad i ffermwyr reoli o leiaf 10% o'u fferm fel cynefin. 

Er mwyn helpu ffermwyr i fodloni'r gofyniad hwnnw, mae opsiynau ychwanegol i greu cynefin dros dro yn cael eu hystyried. Dylai'r rheini fod yn addas ar gyfer pob system ffermio a phob math o berchenogaeth ar dir.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynllun Ffermio Cynaliadwy: amlinelliad o’r cynllun a gynigir (2024) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.