BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi gŵyl y banc ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, ddydd Llun, 19 Medi 2022

I nodi dyddiad Angladd Gwladol Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, bydd dydd Llun, 19 Medi 2022, yn Ŵyl Banc genedlaethol

Bydd hyn yn caniatáu i unigolion, busnesau a sefydliadau eraill dalu eu parch i'w Mawrhydi a choffáu Ei theyrnasiad, tra'n nodi diwrnod olaf y cyfnod o alaru cenedlaethol.

Bydd yr Ŵyl Banc hon yn gweithredu yn yr un modd â Gwyliau Banc eraill, ac nid oes hawl statudol i amser i ffwrdd. Gall cyflogwyr gynnwys Gŵyl y Banc fel rhan o hawl gweithiwr i wyliau. 

Bydd Gŵyl y Banc yn foment genedlaethol unigryw, a byddem yn annog cyflogwyr i ymateb yn sensitif i geisiadau gan weithwyr sydd eisiau cymryd amser i ffwrdd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer y cyhoedd a busnesau ar y cyfnod o alaru cenedlaethol. 

I gael gwybodaeth yng Nghymru, ewch i: Marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II: canllawiau Galar Cenedlaethol | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.