Bydd rhaid i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen, cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw.
Mae'r mesur yn cael ei gyflwyno i helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws. Mae’r achosion yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf.
Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, fe wnaeth y Prif Weinidog heddiw annog pawb i weithio gartref pan fo modd, gan sicrhau eu bod yn cael eu brechu'n llawn.
Bydd ymwybyddiaeth o fesurau diogelu Covid allweddol eraill a chamau i’w gorfodi yn cynyddu. Bydd y mesurau hyn yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Daw'r gofyniad i ddangos Pàs COVID y GIG i rym ar 11 Hydref 2021.
Bydd yn golygu y bydd angen i bobl dros 18 oed gael Pàs COVID y GIG i fynd i’r canlynol:
- Clybiau nos
- Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau
- Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
- Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl
Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru